Clwyd Young Farmers Club Clwb Ffermyr Ifanc Clwyd
  • Adref - Home
  • Clybiau - Clubs
  • Gweithgareddau a Lluniau - Events & Pictures
  • Swyddogion yr Sir a'r Pwyllgor - County Officials & Committees
  • Cyswllt - Links
  • Cysylltwch a ni - Contact us
Picture
CFFI Uwchaled Young Farmers Club
Picture

Ymwelwch a CFfI Uwchaled ar Facebook

          CFFI Uwchaled Young Farmers Club

Llywydd :   
Cadeirydd:  
Ysgrifennydd:  
Trysorydd :  9
Arweinyddion :  
Man Cyfarfod:  Canolfan Addysg Uwchaled, Cerrigydrudion; Nos Lun - 7.30yh


Mae’r clwb wedi cael blwyddyn prysur iawn eto eleni gyda digon o hwyl a nifer fawr o lwyddianau i’r aelodau. 

Dechreuodd y flwyddyn gyda Sioe Cerrig. Gyda’r  tywydd  yn braf, fe gafodd stondin y clwb  lawer o ymwelwyr a chyfle i hybu ein gweithgareddau a denu aelodau newydd. Unwaith eto bu dawns lwyddiannus gydar nos, a  DJ Iolo Gwilym yn darparu’r adloniant. Diolch yn fawr iawn i bawb fu'n  helpu  gyda paratoi’r bwyd,  gweithio ar y drws  a thu ol ir bar.  

Agorwyd gweithgareddau’r  flwyddyn gyda  Helfa Drysor yng ngofal Iw Jiw a Rhys Disgarth. Car Guto Lynch ac  Alwyn Dylan ddaeth i'r brig, felly y nhw fydd yn cael y fraint o drefnu yr Helfa  flwyddyn nesaf! 
Cynhalwyd swper agoriadaol y Clwb ym mwyty Plas yn Dre, Bala – roedd hon yn noson hwyliog iawn, gyda digonedd o fwyd blasus a gemau gwirion i ddiddanu aelodau o bob oedran. Roedd y noson yn gyfle da i groesawu aelodau newydd i'r clwb.  
Rydym wedi cael nifer o nosweithiau eraill hwyliog a diddorol gan gynnwys twrnament 5 bob ochor, noson grempog, cwis gan Guto Jones, a  noson o gemau gwahanol gan ein llywydd Sion Williams. Cawsom  wylio  ffilm yn y neuadd  a gyrfa chwilod.

 Yng nghanol y nosweithiau o gemau hwyliog, mae’r clwb hefyd wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ac yn  ymarfer ar gyfer cystadlaethau fel yr Eisteddfod a Diwrnod Gwaith Maes.  

Cafwyd noson wych o gystadlu eto eleni yn yr Eisteddfod Sir yn Ninbych. Cawsom lawer o lwyddiannau unigol, ar cor unwaith eto yn dod i'r brig. Cafwyd  llwyddiant mawr hefyd  yn yr adran Gwaith Cartref, gyda Mirain Fron Isa yn cael ei chadeirio yn brif lenor yr eisteddfod. 

Cynhaliwyd  Eisteddfod Cymru yn Abergwaun , a chafodd Ceridwen a Llywela gyfle i gynyrchioli'r Sir yn y gystadleuaeth ddeuawd dan 26, a Guto Lynch ac Iw Jiw cyfle i gynyrchioli’r sir yn y ddeuawd doniol. Ar ol cystadleuaeth frwd, dyfarnwyd y cor  yn ail, a chafodd yr aelodau gyfle i gymdeithasu gyda chyd aelodau o'r Sir yn y gwesty . Cafwyd penwythnos pen i gamp!   

Bu Llywela yn llwyddiannus wrth gynyrchioli'r Sir yng nghystladeuaeth y barnu wyn tew yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd. Cafodd yr ail wobr, ynghyd a thlws am yr araith orau yn y Gymraeg.   

Cafwyd Swper Nadolig y Clwb yn ngwesty’r Foelas, Pentrefoelas, pan ymunodd clwb Rhuthun gyda ni gan fod nifer yn ffrindiau – eto roedd hi’n noson hwyliog iawn gyda gemau diri drwy’r nos.  

Mae aelodau'r clwb yn cymeryd rhan yn Nramau Uwchaled yn flynyddol, ac eto eleni cafwyd tair noson o wledd ac adloniant – diolch yn fawr i Guto Jones oedd yn cynhyrchu drama y Ffermwyr Ifanc , a llongyfarchiadau i Lois ar dderbyn tlws yr actor ifanc addawol.   

Cafodd Aled Ystrad ei ddewis yn aelod hun y flwyddyn, a diolch i'r aelodau fu mor barod i gystadlu yn noson y Teitlau . 

Cynhalwyd y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Rhyl eleni, a diolch i'r tim iau am gymeryd rhan - roedd y gystadleuaeth yn frwd iawn, daliwch ati.   

Ar hyd y flwyddyn mae  nifer yr aelodau sydd yn mynychu gweithgareddau'r clwb wedi bod yn gyson. Braf  yw gweld gymaint o aelodau iau mor frwdfrydig i gymeryd rhan.