Clwyd Young Farmers Club Clwb Ffermyr Ifanc Clwyd
  • Adref - Home
  • Clybiau - Clubs
  • Gweithgareddau a Lluniau - Events & Pictures
  • Swyddogion yr Sir a'r Pwyllgor - County Officials & Committees
  • Cyswllt - Links
  • Cysylltwch a ni - Contact us
Picture
Picture

Ymwelwch a grwp clwb Rhuthun

                     CFFI Rhuthun A'r Clych

Cadeirydd:      
Ysgrifenyddes :   
Trysorydd: 
Arweinydd:         
Llywydd:  
Man cyfarfod:  Drill Hall, Rhuthun bob yn ail nos Lun
Tudalen Facebook:  “Clwb Ffermwyr Ifanc Rhuthun”

Blwyddyn lwyddiannus arall i Glwb CFFI Rhuthun a’r clwb yn mynd o nerth i nerth. Mae llawer o aelodau newydd wedi ymuno eto eleni a’r nifer bellach wedi pasio 40. Ers mis Medi rydan ni wedi mwynhau nifer o weithgareddau sef noson gyrfa chwilod, bingo, ymweld a milfeddygfa’r Wern, trip i go-kartio a sclefrio ia! Heb anghofio parti ‘dolig yng nghwmni Uwchaled yn Nhafarn y Foelas, Pentrefoelas.

Yn ôl at rali llynedd, cofodd Rhuthun lwyddiant efo`r “runaway bride” yn mynd ymlaen i’r sioe frenhinol. Ail yn tynnu rhaff, Glain yn ennill y “Canwr Priodas”, cyntaf yn y cogino, ac ail am wisgo’r briodferch- Dydi Hyw Ty Coch erioed wedi edrych mor ddel!! Gan gofio hefyd am y noson wych i gloi’r flwddyn yn cael barbaciw yn dilyn helfa drysor mewn ceir!

Ar ddechrau’r flwyddyn enillodd y tim pelrwyd dan 18 yn y diwrnod chwaraeon yn Ysgol Brynhyfryd.

Yn y ffair Aeaf enillodd Sion Eilir a Tomos Evans y barnu carcas wyn, Dafydd Parry yn ennill Barnu Wyn Cigyddion a Sion Eilir yn fuddugol yn y Barnu Gwartheg cigyddion.

Bu llawer o gystadlu yn Eisteddfod Dinbych eleni, a`r hogie unwaith eto yn ennill gyda’r sgets heb anghofio’r “ddeuawd” doniol efo’r oen!
Llwyddiant hefyd i Sion Eilir a Dafydd Jones aeth lawr i Abergwaun i gynrychioli’r sir .

Cawson hwyl yn  Nawns y Llywydd ym Mhlas isaf, Corwen gyda llawer yn dawnsio i Mic ar y Meic!

Diwrnod gwaith maes ym Maes Llan, a Rhuthun oedd “Y tim gorau yn y Barnu Adran Iau .”

Cafwyd  noson arall o lwyddiant yn y gystadlaeath siarad cyhoeddus gyda Mared, Magi a Gwen  yn ennill dan 16. Llongyfarchiadau hefyd i Ifan am gael ei ddewis fel Siaradwr dan 21. Roedd pawb yn falch iawn o lwyddiant Sioned a chafodd ail yn y gastadleuaeth aelod  iau y flwyddyn, yn y noson deitlau.

Bum hefyd fel Clwb yn trefnu Noson o Hwyl a Chan, yn Theatr John Ambrose. Diolch i pawb a ddaeth i gefnogi. Ond rhaid i ni fel aelodau ddiolch yn fawr iawn i Hyw, Jan, Dewi, Jane, Bethan, Wynn a Nia am eu cymorth ar hyd y flwyddyn.

Mae croeso i bobl o flwyddyn 9 ymlaen ymuno a’r clwb .