Clwyd Young Farmers Club Clwb Ffermyr Ifanc Clwyd
  • Adref - Home
  • Clybiau - Clubs
  • Gweithgareddau a Lluniau - Events & Pictures
  • Swyddogion yr Sir a'r Pwyllgor - County Officials & Committees
  • Cyswllt - Links
  • Cysylltwch a ni - Contact us
Picture
Picture

Dilynwch Clwb Nantglyn ar Facebook

         CFFI Nantglyn Young Farmers Club

Ysgrifenyddes :  
Is Ysgrifenyddes :  
Cadeirydd:  
Is Gadeirydd :  
Man Cyfarfod : Neuadd Groes/Nantglyn.
Amser – 7.30, Bob yn ail Nos Lun.

Clwb o tua 50 aelod ydym, mae mwy na 3/4 o’r aelodau o dan 18.  ‘Rydym yn glwb bywiog sy’n cael llawer o nosweithiau diddorol.  Dechreuwyd y  flwyddyn gyda swper agoriadol i groesawu aelodau newydd i’n plith a chawsom bob math o gemau i bawb fwynhau  - diolch i Ioan.  Ar ol y swper, daeth yn amser paratoi ac ymarfer at yr Eisteddfod, yn fuan iawn.  Diolchwn yn fawr iawn i bawb sydd wedi ein rhoi ar ben ffordd a’n dysgu at y gwahanol gystadlaethau.

Cawn nosweithiau diddorol yn nghwmni siaradwyr gwadd, e.e. cawsom Gerwyn Jones yn son am ei waith fel therapydd cyhyrau, Teleri Davies o Bala yn son am ei gwaith gwirfoddol yn Malawi.  Hefyd cawson Nerys Davies, o Cerrig y Drudion, yn son am ei hamser yn y fyddin, a Gethin Owen yn rhannu ei brofiad o gystadlu ar y gyfres deledu Fferm Ffactor.  ‘Rydym hefyd wedi cael nosweithiau amrywiol o fowlio deg, gyrfa chwilod, cwisiau ac addurno wyau pasg.

Cawsom barti Nadolig hwyliog iawn, gwahoddwyd glybiau eraill atom i fwynhau y bwyd a’r gemau.

‘Rydym wedi cystadlu ar farnu stoc, siarad cyhoeddus a chwaraeon.  Cawsom ganlyniadau boddhaol yn y cwbwl Paratoi at y Rali oedden ni o ddiwedd mis Ebrill ymlaen a chael hwyl a sbri yn gwneud hynnu.‘Rydym wedi cael hwdis newydd i’r clwb, cyfranodd cronfa Arian Gwynt yn rhannol at eu prynu.  Mae’r Clwb y flwyddyn hon wedi rhoi cyfraniad at Elusen y Deillion Gogledd Cymru.  Bu Sioe Flynyddol C.Ff.I. Nantglyn yn llwyddiannus eto eleni gyda pawb wedi cael diwrnod bendigedig  yn yr haul.