Clwyd Young Farmers Club Clwb Ffermyr Ifanc Clwyd
  • Adref - Home
  • Clybiau - Clubs
  • Gweithgareddau a Lluniau - Events & Pictures
  • Swyddogion yr Sir a'r Pwyllgor - County Officials & Committees
  • Cyswllt - Links
  • Cysylltwch a ni - Contact us
Picture

Clwb Ffermwyr Ifanc Llansannan Young Farmers Club

Cadeirydd: Elin Edwards 
Ysgrifennyddion: Aaron Jones
Trysorydd: Carwen Roberts
Man Cyfarfod: Pob wythnos ar nos Fawrth, 7.30y.h yn Ganolfan Bro Aled

Dechreuodd y flwyddyn yn dda gyda noson agoriadol i groesawu llwyth o aelodau ifanc newydd.  Yna, ymlaen i gystadlaethau barnu stoc a gynhaliwyd yng Nghae Goronwy.  Cafwyd llwyddiant gan Alys Wenallt, Gareth Foxhall, Ifan Cae Goronwy a Catrin Plas Pigot.

Cafodd y clwb hwyl dda arni yn yr Eisteddfod yn Ninbych hefyd gan gynnwys parti deulais  ac ensemble y bechgyn ac emyn Gareth Foxhall, ac esgus dda i fynd lawr i Abergwaun i gymdeithasu.

Dewisiwyd noson oer iawn i ganu carolau o amgylch y llan dros y Nadolig.  Codwyd tua £100 i elusen St. Cyndeyrn.

Cynhaliwyd ein parti Nadolig blynyddol yn y Llew Coch yn Llansannan – parti gwisg ffansi, ac roedd gwisgoedd o bob math, o fôr ladron, sbaenwyr a’r tri gŵr doeth! Noson hwyliog iawn!! 

Bu rhai aelodau yn cydweithio gyda cwmni TAPE, a gyda Oriel Mostyn i greu ffilm mewn prosiect a gychwynodd gan artist Sbaeneg.  Cafwyd noson agored i’r cyhoedd yn y flwyddyn newydd, i ddangos y ffilm a oedd wedi ei selio ar fywyd ffermwr ifanc. Sêr y ffilm oedd Magi Wenallt, Tomos Hwlffordd ac Aaron Jones, felly gwelwyd cymysgedd o fywydau gwahanol y ffermwyr ifanc gan gynnwys gwisgo colur, godro am 5 yb a gwneud paned! Da iawn chi!!Un o uchafbwyntiau’r flwyddyn oedd noson Santes Dwynwen, ble bu’r bechgyn yn coginio pryd 3 cwrs ‘blasus’ i’r merched. Bechod na wnaethon nhw olchi’r llestri ar eu holau! Bu llawer iawn o chwerthin!

Cafodd y clwb lwyddiant yng nghystadlaethau barnu stoc ar gyfer y Sioe Frenhinol hefyd, wrth i dîm Llansannan ddod yn gyntaf yn y gystadleuaeth barnu defaid torddu, ac wrth i unigolion lwyddo – Alys Pengwern yn ail yn y barnu defaid torddu dan 16 a Elin Wenallt yn gydradd ail wrth farnu defaid torddu dan 26ain.

Carwn fel clwb longyfarch yr holl gyn aelodau sydd wedi priodi yn y flwyddyn diwethaf, gan gynnwys Rhian Carwed Fynydd, Elliw Rhosgarnedd, Ywain Tŷ Mawr, Guto Hendre Llan, Steffan Morris, Eleri Tan Tryfan, Llion Grugor Ucha’ ac i Dylan Bryn Eithin. Llongyfarchiadau mawr i chi a’ch gwyr/gwragedd newydd! Diolch i bawb am eu hymroddiad dros y flwyddyn brysur hon, a gobeithiwn am flwyddyn dda arall y flwyddyn nesaf