Clwyd Young Farmers Club Clwb Ffermyr Ifanc Clwyd
  • Adref - Home
  • Clybiau - Clubs
  • Gweithgareddau a Lluniau - Events & Pictures
  • Swyddogion yr Sir a'r Pwyllgor - County Officials & Committees
  • Cyswllt - Links
  • Cysylltwch a ni - Contact us
Picture
Picture

Ymwelwch a CFfI Llannefydd ar Facebook

                            Clwb Llannefydd

Ysgrifennydd
Erina Roberts, Simdde Hir, Llannefydd  01745 540388
Trysorydd 
Marian Owen, Bodysgaw Isaf, Llannefydd 01745 540254
Arweinyddion
Elis a Bedwyr

Cyfarfod 
bob yn ail nos Lun am 7.30 yn Neuadd Llannefydd
Cyfarfod – bob yn ail nos Lun am 7.30 yn Neuadd Llannefydd
Mae’r Clwb wedi cael blwyddyn prysur ac wedi cael amrywiol weithgareddau megis noson gwis, gyrfa chwist, chwaraeon, bowlio deg, dawns y llywydd, parti nadolig, bowls, bingo, ymweliad a’r Frigad Dan a Llaeth y Llan; gocartio, hyfforddi barnu stoc ac ati.

Rali y llynedd – cafodd y Clwb ddiwrnod llwyddiannus yng Nghorwen ac roedd yr aelodau yn falch iawn o’u llwyddiant – aeth Rhiannon a Hana ymlaen i gynrychioli Clwyd yn y Sioe Frenhinol gyda’r deunyddiau priodas – Da iawn chi!

Bu’r hogie yn llwyddiannus iawn yn y diwrnod chwaraeon yn Rhuthun yn mis Medi gyda’r tim peldroed dan 18aw yn dod yn 1af. (unwaith eto!)

Bu amryw yn cystadlu yn yr Eisteddfod yn Ninbych a daeth y Clwb yn 3ydd – buont yn cystadlu yn y sgets, meimio, unawd offerynnol, adrodd, canu, a’r grwp pop; yn ogystal ag amryw o gystadlaethau gwaith cartref.  Daeth y Grwp pop, Unawd offerynnol, Meimio, DVD y Clwb, Poster, Blog Materion Gwledig a’r Arlunio yn 1af – gyda’r rhain yn mynd ymlaen i gystadlu yn Eisteddfod Cymru yn Abergwaun – cawsom amser da a Gwesty neis iawn - da iawn chi – Llongyfarchiadau!

Cystadlaethau Gwaith Maes yn Rhuthun – daeth y clwb yn 1af  gyda’r ‘Calendr’ gyda rhai o’r lluniau wedi cael eu dewis i fynd ymlaen i’r detholiad nesaf trwy Gymru – gobeithio y byddant i’w gweld ar galendr cenedlaethol y Mudiad flwyddyn nesaf!

Cawsom lwyddiant yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Ysgol Dewi Sant – daeth y tim darllen yn 1af sef Gryffydd, Deio ag Elin  gyda Elin yn mynd ymlaen i Lanelwedd fel Darllenydd; a daeth yr ail dim darllen yn 3ydd sef Ynyr, Hana a Lewys gyda Ynyr yn mynd ymlaen fel Cadeirydd (newidwyd dyddiad cystadleuaeth Cymru oherwydd yr eira ac nid oedd Ynyr yn gallu mynd); hefyd y tim 16 ac iau – Morgan, Wiliam a Bedwyr – Cawsom lwyddiant yn y gystadleuaeth Siarad Cyhoeddus yn Ysgol Dewi Sant – daeth y tim darllen yn 1af sef Gryffydd, Deio ag Elin  gyda Elin yn mynd ymlaen i Lanelwedd fel Darllenydd; a daeth yr ail dim darllen yn 3ydd sef Ynyr, Hana a Lewys gyda Ynyr yn mynd ymlaen fel Cadeirydd (newidwyd dyddiad cystadleuaeth Cymru oherwydd yr eira ac nid oedd Ynyr yn gallu mynd); hefyd y tim 16 ac iau – Morgan, Wiliam a Bedwyr – a Morgan yn cael ei ddewis wrth gefn fel diolchydd – dyma brofi bod aelodau Llannefydd yn dda am siarad!

Os hoffech ymuno a’r Clwb cysylltwch ag unrhyw un o Lannefydd – ond mae’n rhaid i chi fod yn mlwyddyn 9 neu’n hyn!