Place / Lle: Coleg Llysfasi, Pentrecelyn, Rhuthun Time / Amser: Bob yn ail nos Fercher 7.30pm
Club Details / Manylion y Clwb: Chairperson / Cadeirydd: Sion Eilir Secretary / Ysgrifennydd: Sioned Williams - 01824 709750 Treasurer / Trysorydd: Gwenan Williams - 01824 702967 Club Leader / Arweinydd y Clwb: Huw O. Williams - 01824 709750
Gweithgareddau
Cawsom ddechrau da arall i flwyddyn brysur gyda noson o gemau gwirion i groesawu aelodau hen a newydd. Paratoi ar gyfer yr Eisteddfod a'r Diwrnod Gwaith Maes wedyn, a mwynhau noson o "Beatboxing" gyda Ed Holden, wedyn ymlacio efo sglefrio a chymdeithasu. Cawsom ein parti Nadolig yn y Griffin, Llanbedr DC gyda gemau efo Thomas Griffiths. Cawsom noson Grempog efo clybiau Pentrefoelas a Llannefydd hefyd. Gwener y Groglith, cawsom ras dri throed noddedig i fyny Moel Famau i gasglu arian i'r Sir, a daeth y Cyng. Eryl Williams i gychwyn y Ras. Bum yn brysur yn y Rali ym Metws yn Rhos a daeth Sion Eilir yn fuddugol am farnu defaid Lleyn i rhai 16 oed ac iau.
Mae'r Clwb yn cystadlu eleni yn Sioe Flodau Rhuthun - wedi cael adran bach i ni ein hunain, gosod blodau, coginio, dangos oen tew a.y.b.
Bydd y Clwb yn ail ddechrau ar ol yr Haf ar Fedi 10.
Llongyfarchiadau i Sion Eilir am ddod yn fuddugol yn Llanelwedd ar farnu defaid Lleyn i rai o dan 16 oed, ac ennill cwpan am fod y gorau i roi ei resymau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr un oedran.