
Mae’r clwb eleni wedi bod yn lwcus iawn o gael croesawu o leiaf 10 aelod newydd ifanc i’r clwb, felly mae dyfodol y clwb yn argoeli’n un llewyrchus. Ysgrifenyddion y clwb eleni ydy Ywain Williams a Rhian Garwed Fynydd. Anwen Yr Erw ydy cadeirydd y clwb, Eiddwen Beidiog Isa sy’n drysorydd ac Elin Wenallt ydy gohebydd y wasg. Rydym yn cyfarfod yng Nghanolfan Addysg Bro Aled, Llansannan bob nos Fawrth am 7.30.
Rhwng ymweliad ag amrywiol lefydd, cymeryd rhan mewn nosweithiau hwyliog, gwrando ar gyflwyniad sleidiau a mwynhau’r amrywiol weithgareddau oedd ar ein cyfer, rydym wedi llwyddo i gael yr amser i gymeryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau amrywiol.
Bu pawb yn weithgar ac yn barod i gymeryd rhan yn yr eisteddfod yn ystod tymor yr Hydref. Bu’r clwb yn cystadlu’n frwd boed yn ganu, actio, ysgrifennu neu’n meimio i gerddoriaeth a derbyniasant ganmoliaeth am eu perfformiadau.
Daeth noson Guto Ffowc yn sydyn ar ôl hynny, a bu aelodau’r clwb yn brysur yn coginio cŵn poeth, estyn cawl cartref i gadw pawb yn gynnes ac yn cynnal arddangosfa o dân gwyllt lliwgar ar gae’r ysgol.
Bu noson dawns y llywydd yn un llwyddiannus a hwyliog dros ben, a’r bws yn llawn o ferched a bechgyn y fro yn eu ffrogiau gosgeiddig a’u siwtiau crand – tipyn o sialens cael ambell un i dynnu ei Wellingtons i ffwrdd ar gyfer yr achlysur!
Buan ddaeth y flwyddyn newydd, ac yn amser meddwl am gystadlaethau barnu stoc a siarad yn gyhoeddus. Bu’r clwb yn hynod ddiwyd eu gwaith ac wedi llwyddo yn y cystadlaethau. Yn y gystadleuaeth siarad cyhoeddus yn Llysfasi cafodd ein clwb y marciau uchaf felly’n ennill y gwpan, a cystadlodd y tîm dan 21 dros y sir ym Machynlleth. Daeth y criw oedd yn barnu stoc yn Llanelwedd yn gyntaf drwy Gymru gyfan! Gobeithio y bydd lwc a thalentau’r clwb yr un mor llwyddiannus y flwyddyn nesaf!