
Mae hi wedi bod yn flwyddyn llwyddiannus i’r clwb yn barod eleni gyda llwyddiant yn yr eisteddfod, siarad cyhoeddus a’r cwis dafarn gyda aelodau o’r clwb yn mynd ymlaen i gynrychioli’r sir yng ngystadleuthau Cymru. Edrychwn ymlaen at y rali yn awr, yn enwedig gan ei bod yn ein plwyf ni eleni!
Rydym wedi cael nosweithiau yn dringo a chware gemau yn ogystal â sgyrsiau am faterion megis melinau gwynt, ac edrychwn ymlaen at ymweld â fferm odro anferthol Mr Dafydd Wynne-Finch ym Mhen Llŷn. Fe fûm yn paratoi bwyd i’r eisteddfod flynyddol leol eto eleni ac fe gawson yrfa chwist llwyddiannus iawn.
Rydym yn cyfarfod bob pythefnos ar nos Lun am 7.30y.h. yn ysgol y pentref, ac mae croeso cynnes i bawb i ymuno gyda ni. Mae rhai o’n aelodau yn trafaelio dipyn i fod gyda ni bob tro!! Pob Lwc i bawb yn y rali, a gobeithio y gallwn orffen y flwyddyn mewn steil!!!