
Fe ffurfiwyd y clwb ym mis Tachwedd 2005.
Mae’r clwb wedi bod yn brysur iawn dros y flwyddyn drwy gystadlu yn Sirol ac yn Genedlaethol, daeth y clwb yn 2il yn y gem Rygbi yn y cystadleuaethau chwaraeon Sirol a dod yn 2il wrth dynnu rhaff yn y Rali. Yn ein diwrnod Gwaith Maes daeth y clwb yn 2il ar ddiwedd y diwrnod. Clod uchel sydd i Tudur Parry aelod o’r clwb a ddaeth i’r brig yn Eisteddfod CFfI Cymru.
Bu’r clwb yn cymryd rhan i godi arian i Dy Gobaith a Sioe Frenhinol Cymru, casglwyd £300 o bunnoedd i’r elusennau drwy wneud ras dair-coes, bu’r diwrnod yn un hwyliog iawn, da iawn i bawb am gymerodd ran.
Dros y flwyddyn sydd wedi bod mae’r clwb wedi cael llawer o nosweithiau difyr iawn, gan gael noson gwis, mynd i’r cinema ac iceskatio, noson o gemau pwl a darts, hefyd trefnwyd noson i’r bechgyn gan y merched – waxio coesau! A dyma’r bechgyn yn trefnu noson i’r merched – dreifio motor beic. Hefyd mae’r clwb wedi cael llawer o nosweithiau difyr mewn Helfa Drysor.
Ar hyn o bryd mae gan y Clwb dros 30 o aelodau ac os ydych gyda diddordeb mewn ymuno, ewch am dro i Dudley, Llandrillo ar nos lun rhwng 7:30 a 9.00 o’r gloch. Nid oes rhaglen llawn wedi ei chreu am y flwyddyn eto, ond mae rhai nosweithiau wedi ei trefnu yn barod.