Clwb Ffermwyr Ifanc Betws Yn Rhos Young Farmers Club
Place / Lle: Neuadd Bentref, Betws yn Rhos Village Hall Time / Amser: Bob yn ail Nos Lun 7.30pm - 9.30pm
Parti Llefaru Eisteddfod 2007
2006 - 2007
‘Rydym wedi cael blwyddyn brysur o ran cystadlu gan ymgeisio mewn mwy o wahanol feysydd nag a wnaethom ers tro byd. Cawsom ddiwrnod bendigedig yn y Rali yng Nghernioge Bach, ac aeth pum aelod ymlaen i gystadlu yn y Sioe Frenhinol -Elen i osod blodau a Tudur i feirniadu defaid. Dawnsio oedd Ceri, Catrin a Jess ac fe ddaethant yn drydydd yn Llanelwedd. Buom yn reit brysur yn barnu stoc a carcass gan lwyddo i yrru tîm ar bob achlysur. Daethom adref o’r eisteddfod gyda phum gwobr gyntaf a phob aelod wedi cael cyfle i gymryd rhan. Eleni, am y tro cyntaf i’r aelodau presennol bu i ni yrru tri tîm i’r gystadleuaeth siarad cyhoeddus, daeth Jess, Anna ac Elin yn gyntaf ar y ddadl dan 21 ac aethant ymlaen ynghyd a Lliwen a Catrin i benwythnos cystadlaethau Cymru yng Nghrymych. Bu Catrin yn cynrychioli’r clwb gan ddawnsio yng Nghyngerdd y Tair Sir ym Mhafiliwn Corwen ac yna bu’r aelodau yn cynrychioli Clwyd mewn pedair cystadleuaeth yn Niwrnod Gwaith Maes Cymru ym Marchnad Rhuthun, lle y daeth Dafydd a Bleddyn yn gyntaf yng nghwis Diogelwch Iau. Yn ogystal â bwrlwm y cystadlu ‘rydym wedi mwynhau nifer o weithgareddau ar noson glwb ac wedi cynnal pethau i’r gymdeithas megis cyfarfod diolchgarwch, gyrfa chwist a thwmpath dawns.
Rhaglen clwb Rhagfyr a Ionawr:
Parti Nadolig clwb gyda Clwb Nantglyn yn y Wheatsheaf nos wener 12 o Ragfyr.
Canu carolau yn ardal Llanfair nos lun 15 o Ragfyr.
Pantomeim yn y Wyddgrug mis Ionawr.
Noson Heini Hwyliog yn y neuadd ar yr 19 o Ionawr.
Club Details / Manylion y Clwb: Chairperson / Cadeirydd: Anna Jones Secretary / Ysgrifennydd: Elen Pierce Treasurer / Trysorydd: Catrin Jones Club Leader / Arweinydd y Clwb: Fiona Jones, Ellen Roberts a Llinos Davies