
Rydym yn cyfarfod bob yn ail nos Fawrth yn Neuadd y Plwyf Llannefydd am 7.30 – croeso cynnes i unrhyw un ymuno a ni.
Rydym wedi cael rhaglen ddiddorol iawn dros y flwyddyn megis chwaraeon dan do, Bowlio Deg, Cwis, Gyrfa Chwist, ymweld a Llaeth y Llan a Hofrennydd yr Heddlu, noson grempogau, sgwrs gan filfeddyg a.y.b.
Cawsom ddechau llwyddiannus iawn i’r flwyddyn pan ddaeth y bechgyn yn fuddugol ac yn ail yn y gystadleuaeth pel droed yn Ninbych. Daeth mwy o lwyddiant pan ddaeth y tim 14 ac iau yn 1af ac 2il yn y siarad cyhoeddus (Manon, Rhys, Gwenllian, Erin ac Elgan) a Llannefydd yn 1af hefyd gyda’r tim 16 ac iau (Ifan, Gwawr a Sion). Bu pedwar o’r aelodau yn cynrychioli Clwyd yn Rhuthun yn mis Mawrth.
Llongyfarchiadau hefyd i Sion a ddaeth yn 3ydd yn y Noson Deitlau yn y gystadleuaeth Aelod Iau y Flwyddyn.
Edrychwn ymlaen at gystadlu yn y Rali ym Metws yn Rhos yn mis Mehefin – pob lwc!
Arweinyddion – Emma Bonnett a Sion Roberts
Ysgrifennydd – Erina Roberts
Trysorydd – Eirian Jones